Horizon Review

Mark Williams: Amaethon Uab Dôn: Part Two

Salt headlines


{ds1::title}

{ds1::pubDate}

{ds1::description} Read more …

Mark Williams

Mark Williams

Mark Williams is a Research Fellow in Celtic Studies at Peterhouse, Cambridge. He studied Welsh and Irish as a graduate student at Oxford, completing a doctorate on astrology and celestial portents in medieval Celtic literature. Before that he studied Classics and English. He is currently working on a cultural history of the gods of Irish mythology, and lectures at Cambridge on Irish and Welsh literature.

Amaethon Uab Dôn

(1) AMATHAON uab Don a oed arglwyd ar seith cantref Dyuet, a Gwydyon uab Don y urawd oed arglwyd ar Wyned. A sef oed y rei hynny, y cantrefi a rodes Wydyon idaw, guedy angheu Pryderi uab Pwyll ual y clywssam ni uchot.

Ac yn yr oes honno Math Hen uab Mathonwy a uu uarw a Goewin y urenhines y gyt ac ef, a hoedyl uawr a uu ganthunt. A gwneithur bed udunt, ac yn agen y greic uch benn Caer Dathyl y cladwyt, lle y hwybanei y gwynt yn wastat. A guedy hynny, Gwydion oed yn arglwyd ar Wyned, a ny uynychei y bed wynteu, o achaws drwc oed ganthaw welet y ewythyr a gwr o hut a lledrith yn uarw ac ydan y dayar. Ac y trydyd o’r tri bed diuynych oed y bed hwnnw.

A threigylgueith yd oed Wydion ar gylch y (2) gyuoeth a’y diroed, ac ef a doeth hyt yg Geunant, yn lle yd oed lys idaw. A’r neuad a’r ysteuyll ynteu a gyweirwyt yn y erbyn, ac e ymolchi yd aeth ef. A chyrchu y bordeu a orug, ef a’y deulu, ac ef a dreulwys y nos honno trwy uwyt a llynn a cherdeu a chyuedach.

A thrannoeth, sef a wnaeth guyrda y wlat, dyuot yn y bore gyr bron Wydyon, ac auar trwm ganthunt. ‘Dyd da yt, arglwyd’, heb wy. ‘Duw a rodo da ywch’, heb y Gwydyon, ‘ac a oes chwedleu genhwch?’‘Arglwyd’, heb wynteu, ‘mae genhym ni chwedleu drwc. Yssit ouut a gormes arnam ac ar dy gyuoeth di ymma, a na gouyn ynn pa furyf y guellher hynny, am nas gwdom, ac ar diwed an gobeithyon y bydwn ni rac ouyn ac aniuyget.’ ‘Ha, a wyrda’, heb ynteu, ‘pa ouit yw hwnnw?’ ‘Gouit cwn, arglwyd’, heb wynt, ‘a chawat beunoeth o nywl, a chlywet kyuarth cwn yn y nywl hwn tros dy gyuoeth ymma, a hediw y keffir yr holl aniueileit an trefi ni yn druan rac ergryn. A thorri a sathru an perllanneu a’n gwenith oed yn tyuu yn oreu yn y byt, megys y chwythassei wyntoed cryuyon mawr drwydunt. Ac o ureid y keffy uarch neu uuwch neu darw iach yn y tir, a ny wely di hayach berllan na chroft a darpar frwyth eleni.’

‘A wyrda’, (3) heb y Gwydyon, ‘ny wnn inheu pa beth bei hynny, namyn y nos hon mi a’e arganuydaf, ac e rof i a Duw, diwed a rodaf erni.’ ‘Ie, arglwyd’, heb wy, ‘a Duw dalho da yt.’ ‘Ac aet kenadeu at Amaethon uab Don uy mrawd, hyt yg Geredgyawn, a gouynwch idaw pa beth a wyppei o hynny, ae da ae drwc. Ac eres gennyf ony wyr ef dim y wrth hynny, ac atuyd dyry ef gynghor; ac erchwch idaw y dyuot ymi yg Gwyned.’ Ac yn y lle y gwnaethpwyt hynny. A sef y kennadeu a aeth, Bychuran uab Barllym a Huan Hir uab Gwryon.

Ac ef a gyuodes Gwydyon ynteu, a chychwyn y prynhawn hwnnw yn heneint y dyd a dyuot hyt y Dolwydelan, llys arall idaw. A ual y deuei y nos, adaw y llys a wnaeth ehun, a mynet ohonaw yn y geluydodeu, ac y dechreuuawd dangos y hut. A sef a wnaeth Gwydion, y rithyaw yn drych hen wr didestyl a bratteu trwm ymdanaw, a rithyaw e uarch yn furyf mochyn brithuawr. Ac ar hynny dechreu a oruc gyrru y mochyn a’y lathen o’e ulaen ydan y coet, yn keissaw mess y uwyteu arnei. Ac ar hynny llyma gawat o nywl a thawelwch enryued y gyt a hynny. A llyma wynt mawr yn kyuodi ac yn rwygaw deil y coet, a Gwydyon a gigleu gyuarthua cwn a chanu corn hely. A ny allei ef canuot pei hynny uwch benn y coet pei ydan y dayar, ac wy a deuei yn y erbyn, a diang o’y uochyn rac ouyn. A nyt oed un dalen ar y coet ny daruu y’r gwynt y dwyn.

A sef a wnaeth Gwydion yna, seuyll ac (4) arhos. Ac ar hynny, nachaf erchwys cwn yn redeg o dan y coet a marchawc yn dyuot yn ol yr erchwys ar uarch melyn, a gwisc hela amdanaw. A sef oed y lliw ar y cwn, claerwyn, a chlusteu cochyon ganthunt. Ac yna y gwyr Gwydyon pwy yssyd yn hela ar e gyuoeth a’y diroed ac yn dychryn guyrda a thayogeu ac aniueileit, ac o’y dremygu y gwneir yr hely hwnnw.

Ac y gwelas y marchawc ynteu yno. ‘Ym kyffes y Duw, a wr’, heb ef, ‘pwy wyt ti y seuyll yn hy o ulaen arglwyd a’y gwn? Gwr dewr wyt neu ynuyt.’ ‘Dy uadeuant, arglwyd, a dyd da yt’, heb ynteu. ‘A pha wed doethost ti yma?’ heb y marchawc yna. ‘Arglwyd’, heb ynteu, ‘gwr tlawt wyf i, ac y dieghis e ymdeith uy mochyn rac ouyn dy gwn, a nyt oes dim gennyf i yn y byt.’ ‘A wr’ heb ynteu, ‘canys titheu a seuy o’m blaen yuelly, ti a uo o wasanaeth ymi.’ ‘A pha beth a uynnych y gennyf i, arglywd?’ heb ynteu. ‘Mi a anuonaf ditheu yn gennat’, heb ynteu, ‘y’th arglwyd Guydyon uab Don lle mae ef yg Gaer Dathyl. Ys (5) Arawn <> urenhin Annwn[1] a wna yr hely yn y gyuoeth hynny, ac ynteu a adwaen yr enw.’ 'Ie, arglwyd', hep ynteu, 'ac o ba achaws y dywedaf y gwnaethpwyt yr hela hwnn?' 'Y dial yr agheu kywylydus a orucpwyt y ganthaw ar Bryderi', heb ynteu, 'o achaws y kedymdeithas oed y rof inheu a Phwyll y dat.’ ‘Yn llawenn, arglwyd’, heb y Gywdyon, ‘a mi a af ragof kyn gyflymet ac y gallwyf.’

A chyrchu Caer Dathyl a wnaeth ynteu yna. A sef a wnaeth Gwydyon y nos honno, y datrithyaw a rodi y bryt e hun arnaw, a medyliaw ohonaw yn hir. A thrannoeth, y kennadeu a doethant dracheuyn o Amaethon uab Don at Uydyon yGaer Dathyl. ‘Ie’, heb y Guydyon, ‘beth yw’r kennadwri yssyd genhwch?’ ‘Arglwyd’, heb wynt, ‘dy urawt a gyueirch uell yti, ac anuon gedernit y gywirdeb a’e gerennyd diruawr o herwyd y seith cantref a rodeist idaw.’ ‘Dioer’ heb ynteu, ‘a wyr uy mrawt pa ormes a daruu y Wyned?’ ‘Ie’, heb wynt, ‘ef a’e gwyr, eithyr ny daw ef ytt. Ef a heu y ryg weithon, a ny ymat a’y dir a’e dayar a’e anreitheu; ac eisswys da oed ganthaw dy uynet ditheu y lys ef, ac ef a ry eill rodi gynghor a chyuarwyd y ti.’ ‘Mi a af idaw y’r Deheu’, heb y Gwydyon, ‘a darparwch chwi uy march.’

Ef a aeth a thri gweis y gyt ac ef hyt yg Gheredigyawn, ac yna y dywant ar Amaethon y urawt, yn llys idaw. A llawen uu ynteu wrthaw, ac y nos honno ar neillaw Amaethon y gossodet ef yg gynted y neuad.

‘Ie, arglwyd urawt’, heb yr Amaethon, ‘graessaw wrthyt, a da yw gennyf i weled uy mrawt a’r mab uy mam yma. A mi ry gigleu y drwc yssyd arnat ti ac ar dy gyuoeth.' 'Ie', heb ynteu, 'ac yuelly yd atwaenost y gwr a wna'r llygyryaw hwnnw'. 'Mi a’e gwnn. A gymery di gyghor?’ ‘Arglwyd urawt’, heb enteu, ‘mi a’e kymmeraf’. ‘Arglwyd’, heb ynteu, ‘nyt oes yt gynghor namyn dwyn o Arawn a na uo ef yn uyw hebdaw.’ ‘A pha beth yw hynny, eneit?’ heb y Gwydyon. ‘Pony daw cof yti o’r tri phryf a gudyawd Arawn yg (7) greu o glwydeu gyr bron y lys yn Annwn?’, heb ynteu. ‘A sef yw hynny, yr iwrch, y ceneu, a’r cornucyl, ac y maent y gadwedic ganthaw, a hebdunt ny eill e deyrnas parhau.’ ‘Ie, eneit, mi a’e gwnn’, heb ynteu, ‘ac y gwydost titheu uug gallu an dwyn ni hyt yn y llys idaw yn Annwn, a hynny o nerth uy hut a lledrith a chyn cael o neb yn guelet ninheu.’ ‘Dioer’, heb ynteu, ‘yn wir ry dywedeist ti. Canys titheu a oedut eiryoet y guell wrth rithyaw. Namyn yssit a wnelhwyf inheu nys gwnelych, a’r goreu a allwyf uyth a wnaf ytti.’ ‘Duw a dalo yt, eneit’, heb ynteu. ‘Ac enw a rodes Arawn ar y creu yn Annwn, a ny wyr neb yr enw hwnnw onyt Arawn e hun, ac ony wypper ef, nyt agorho dyn y porthglwyd yssyd ar y creu. A beth yw dy gynghor am hynny, arglwyd?’ heb yr Amaethon. Sef a wnaeth Gwydyon (8) ynteu, chwerthin. ‘Meuyl ymi’, heb ef, ‘ony dychmygaf yr enw.’ Ac yuelly yg gynghor a ymdidan y treulyssant y nos honno, a phan doeth yr amser udunt e uynet e gyscu, y gysgu yd aethant.

A thrannoeth arhos a wnaethant hyt pan y doeth y nos. ‘Arglwyd urawt’, heb yr Amaethon, ‘diamheu yw gennym y byd Arawn urenhin Annwn e ymdeith yn gouudyaw dy gyuoeth ditheu bellach, ac e deyrnas a uyd yn wag a heb wylat. Holl e uakwyueit a’e weisson a uyd yn y llys yn kwyeiryaw darmerth.’ ‘Ie’, heb y Guydyon, ‘a llyma beth nys dysgwyl ynteu uyth, sef yw ymedyryaw ohonom y uewn y gyuoeth y hun.’ A dyuot a wnaethant hyt a Glynn Dulas, a chychwyn ydan y coet tu a chyuoeth Arawn y nos honno. Ac o’r a welsynt o nosweithieu eiryoet, ny welsynt wy nos duach a hwy no honno, a ny chlywynt dim yna eithyr y dyuroed yn lliuaw drwy’r glynn.

A guedy eu bot ruthur o’r nos kerdet yuelly, arhos a wnaeth Amaethon a synnyeit[2] yn graf ar y coet. ‘Ha, arglwyd urawt’, heb ef, ‘mi a weleis gynneu y prenn (9) hwnn. Ac y Duw y dygaf uy ghyffes, yg gylcheu ry grwydrassam hyt yr awr hon.’ ‘Dioer’, heb y Gwydyon, ‘ar hyt y hynt iawn y doetham heno, a reit yw ynni kerdet ar lann y nant, a gan y llwybyr hwnnw yd awn y deyrnas.’ ‘Dos yn y blaen os hynny a uynny’, heb ynteu, ‘a minheu a af yn dy ol.’

Ymrodi y gerdet ohonunt wynte, a dilit glann y nant a wnaethant hyt pan ballu ac eisted y orfowys a orugant. ‘Ny thykya ynni kerdet bellach ual hynn’, heb yr Amaethon, ‘diamheu yw genhyf yg gylch y dodym. A weldy racco yr un brenn ac a welsam ni gynt.’ ‘Y rof i a Duw’, heb y Gwydyon, ‘y mae ryw ystryw hut yma. Ac y (10) brenhin Annwn ry rodes swynn dryswch ar y lle hwnn, a ninheu a annwn yndaw, ac ydan gudyat yw’r drws y uewn wy gyuoeth.’ ‘A beth yw dy gyngor am hynn, arglywd urawt?’, heb ynteu. ‘Nyt oes swynn onyt ar an llygeit ninneu. A rwyg leinieu ynni o’th lenn, ual y gallom ni rwymaw yn[3] llygeit a hynny, ac yuelly ni a gerdwn.’

A rwygaw lleinieu o’e lenn a wnaeth Amaethon yna, ac a’r rwymynneu hynny dros y llygeit y kerdant, yn kyfwrd a’y llathrenneu y coet ach y dwylaw, a’r dayar oed o ulaen eu deudroet, ual na syrthyant wy yn wysc y penneu y’r dyuroed. A chyt elhynt yn araf, ny bu eissoes hayach o enkyt ual hynny yd oedynt yny etteil Gwydyon y urawt. ‘Nachaf’, heb ef, ‘ni a ynghwn. Ar yr ochor arall ynni y clywom y nant weithon, kynn nyt ethym drosti. A honno yw’r arwyd.’ ‘Ie’, heb yr Amaethon, ‘dieithyr ny allom mynet hagen y Annwn ual hynn, yn diargel ac yn agoret. Ac awn ni yn an celuydodeu, a cherdet yno bellach yn rith deu hyd ureisc.’ ‘Y rof i a Duw’, heb y Guydyon, ‘o’r holl wyduilot yssyd (11) yn y byt, ny af inheu a’r rith hynny arnaf. A byd titheu yn rith y gwyduil a uynnych: mi a rodaf ansawt Arawn yhun arnaf, ac yuelly ni a awn.’ A hynny a orugant.

Ac ar hynny wy a’y hebryghaud racdunt a cherdet yn ebrwyd y dan y coet, hyt pan doethant y uewn y deyrnas Annwn, ac y’r llys yna, a ny welsynt neb a nys weles dyn wynteu. A cheissaw y creu a wnaethant a guelet yr ywrch gwynn a’r ast a’r cornugyl oed yndaw. A rodes Wydyon y pryt a’e drych ehun arnunt yn hynny, ac ef a gymerth y uyaren ar eido a dyuuei gyr llaw y creu, a chlymeu a doleu a uaglwys ef, a rithyaw cawell eureit ohonunt a deu gynllyuan aryant heuyt. A sef a wnaeth Amaethon ynteu, rodi hut ar y tri aniueil hynny hyt pan delhent wy yn dawel ac yn war. A thewi a wnaethant wrth hynny. ‘Ha, eneit’, heb ef, ‘pa furyf yd agorhom y creu hwnn? A wdost <t>i[4] yr enw a uo y cayat arnaw?’ A sef a oruc Gwydyon ynteu, edrych golwc gyuyrwys ar y urawt, a chymryt y hutlath a chanu englyn yno:—

Annoeth y’th oruc Arawn is y dwfyn
neut Achren yr enw yssyd arnat;
cwbyl uyg gelf yn tir Annwuyn.

Ac yna y tyrr y porthglwyd a thwrwf mawr y gyt a hynny. A chymerir (12) yr ywrch a’r ast a rodir y kynllyuaneu arnunt, ac Gwydyon ynteu a ymauel y cornugyl gyr e uynwgyl, a’e rodi yn y cawell ry lunyassei ef. ‘A eneit’, heb yr Amaethon, ‘reit iawn yw in gilyaw gyntaf y gallom.’ ‘Ie’, heb ynteu, ‘erlit a wnant yn an hol ni, a guae leidr a uo gueledic.’ Ac yna gyntaf y dywetpwyt hwnnw, ac etwa y diharebyr ohonaw. A chyn ebrwydet ac y dywot ef hynny, nachaf marchogyon a theulu y llys yn ymgyuot o achaws y kynnwryf mawr a glywssynt. ‘Can derw yt dywedut ef, arglwyd urawt’ heb Amaethon, ‘kyrchwn Dyuet ar hynt, y goreu bo kyntaf.’

A’r dyd hwnnw y kerdyssant y gyflym hyt pan doethant y Arth Grugyn. ‘Bell digawn ny dodym, arglwyd urawt’, heb yr Amaethon, ‘y byd dygyuor gwlatoed Annwn yn awr hon yn yn hol. Ny arhom ni yma.’ ‘Ie’, heb Guydyon ynteu, ‘lluyd Annwn ny daw hagen y uewn y Dyuet heb eu harglwyd, ac Arawn urenhin Annwn yr uu yn hela ar Wyned heno. Ny a allwn gwneuthur drigyant yma y wers hon.’ Ac yna y trigyssant y nos honno. A phan welsant y dyd drannoeth y kymerassant eu (13) hynt odyna, a thros Elenit y doethant, hyt yn Ard Edrywy, ac yno y buant y nos honno. A nyt oed na changeu na mein y gwnelhynt greu yna ohonunt, a difeith a moel oed y brynn. ‘Nyt da y lle hwnn’, heb Guydyon yna, ‘a ninheu a welant o bell ar y gwarthaf hwnn os kynneu tan a wnawn yma.’ ‘Ha, urawt’, heb yr Amaethon, ‘ny a drig ymma neithwyr. Y kyuryw aniueileit a hynn ny allont kerdet bellach, cany ordyfnant hynny.’

A sef a wnaeth Amaethon ynteu, clymu kynllyuaneu yr ast a’r ywrch y eirynwyd yspin a dyuuei yna. A garwhau e bluf a oruc y corucyl, a thrwy’r nos lleuein lleuyd uchel bychein ohonaw yn wastat, a ny ellynt wy kyscu o’r achaws hwnnw. ‘A urawt’, heb y Gwydyon, ‘ual hynn ny allwyf kysgu nac orfowys, ac os clywy Arawn hynn o lef, ef a dywanho arnam, a hynn oll a gollir, ninheu a’r aniueilieit hynn yll tri.’ ‘Ie, eneit’, heb ynteu, ‘mi a baraf ynni gynhewi hynny.’ Ac ef a gymer y cornugyl ywrth e gawell y rwng y dwylaw, a’y rodi ym plyc y lenn a’y canu. A chyscu a wna ynteu yna, ac y lle hwnn a elwir Rosyluynir o’r achaws hwnnw.

A thrannoeth, (14) sef y kyrchyssant, Mur Castell yg gwrthtir Ardudwy, hyt y lle yd oed Lleu Llaw Gyffes, y nei, mab y chwaer. Ac y’r llys y doethant, a chyuarch guell y Leu, a llawen oed wrthunt.

‘Dyd da ywch, arglwydi’, heb ynteu, ‘a graessaw Duw wrthywch. A pha achaws ry doethawch chwi, uyn ewythred urdassawl, y gyt a deu aniueil a chynllyuanneu aryant arnunt ac un ederyn yg gawell eureit?’ ‘Duw a rodo da yt’, heb Gwydyon. ‘ac o’r Deheu ry doetham, a’r aniueileit hynn ry dugam o’r brenhin Annwn. Ac yr unben bieu y tri aniueileit a daw, ac yd ys yn lluydaw yn yn hol.’ ‘Och’, heb y Lleu, ‘pa chwedleu drwc yssyd yma? Ny duc neb kyrch waeth eiryoet na’r dugawch chwi ymma.’ ‘Y ouyn uy iawn o’r brenhin Annwn yd euthum, a mi a dugum yr aniueileit a wely di ymma ual iawn ohonaw. A nyt oes yma onyt ywrch ac ast a chornugyl, a chynn bei holl yr aniueiliet a’r perllanneu a’r crofteu uyg kyuoeth a diffeithwyt y ganthaw, y rof i a Duw, nyt orugum o anglot idaw gwerth llawn y rei hynny.’ ‘Ie, arglwydi’, heb y Lleu, ‘a chymerwn ni gyghor am bedyt ac arueu, canyt oruydwn o nerth ymdidan.’

Ac yn y lle yd aethant yg gyghor, a (15) sef y kynghor a gaffat, dygyuor cantrefi Gwynedd ac Ardudwy a dyuynnu a oed o wyr aruawc a meirych. ‘A wnaethpwyt nys kywirer weithon’, heb y Lleu, ‘a ny diwallei ymhwelut y aniueiliet idaw. A reit yw ynni dewis a llunnyaw pa furyf yd dyffrytom yn tiroed a chyuoeth racdaw, a hynny ny allwn ni yn haut.’ ‘A fa le y kyrchwn yn dy gyuyoeth am dygyuor’, heb y Guydyon, ‘ac am arhos y brenhin Annwn a’y lu?’ ‘O’r Deheu y daw ynteu’, heb y Lleu, ‘ef a’e oreugwyr a’e luyd. Ac awn ni ynteu y uynyd y gedernit yssyd yn deu yn y gwrthtir.’

A sef y lle a gausant yn y kyngor hwnnw, Caer Nefenhyr yn Eidyonyd. Ac y kedernit hwnnw oed ym plith naw bann llym, ac o’r achaws hwnnw y dodet Naw Nant idi.

A nessau Caer Nefenhyr a wnaethant, a gwiscaw amdanunt. A llyma y dygyuor yg Gwyned, a doethant y teuluoed a’r niueroed ar hynny, ac wy a welynt y gwyrda a’r gwyr ymlad ac arwydon dewr arwreid o bali ganthunt. Ac Catwll Haearndwrn a (16) Chernyll Uiwuanec rys duc, a doeth Talyessin Pen Beird y gyt ac wynt, ac Auaon uab Taliessin, a haedu ohonunt ar y gaer y nos honno, a Gwydyon a aeth yw dygyuoryaw wynt. Ac yn hynny, kennadeu a daw, a chwedleu ganthunt bot lluyd Annwn a’e brenhin yn agos.

A thrannoeth yn y bore glas, sef a wnaeth Lleu Llaw Gyffes, gwiscaw amdanaw, a sewyll ar racuuroed y gaer, a doeth Talyessin y seuyll y gyt ac ef, ac edrych ohonunt ar y riuedi mawr o wyr ymlad Annwn yn cyniweir issot, ac ar y palleu a’e pebylleu.

‘Dyd da yt, arglwyd’, heb y Talyessin. ‘Duw a rodo da yt’, heb y Lleu, ‘yr a welswn ni o ouut a gwaet hediw. Ac a weleist ti uyth lluossyd o gyfryw ueint a hynn?’ ‘Gweleis, arglwyd’, heb ynteu, ‘yn Iwerdon, pan ladwyt Bendigeiduran, ac y seithuet oedwn o’r gwyr a ymchwelwys o Iwerdon.’ ‘A weleist <t>i[5] gynt yniueroed y brenhin Annwn, a’e dyledogyon?’, heb ynteu. ‘Gweleis, arglwyd’, heb ef, ‘a threigylgueith mi a geneis yn y lys yn Annwn, racdaw ef a’e urenhines a’e wyrda. Ac o’r a weleis eiryoet o lyssoed y dayar, y deckaf ac adurnaf oed yr honno, a’r anhawssaf y (17) dianc iwrthi.’ ‘Dioer’, heb y Lleu, ‘o’r achaws hwnn, ti a ueneckych wrthyf enweu y gwyrda a welaf ym plith y llu racco.’ ‘Yn llawen, arglwyd’, heb ynteu, ‘ac y sawl a wnn i, mi a’e managaf yti.’ ‘Ie’, heb y Lleu, ‘a phwy yw y gwr hir melyngoch racco yn y blaen yn kymryt ragor mawr? Yssit lenn las uedus amdanunt yn wisc ymlad, a thri gueis gwelwon yn y ol, a’e arueu llathreit gan y gueisson.’

‘Mi a wnn pwy yw ynteu’, heb ynteu, ‘sef yw Mydyr Ualch, ac un o’r prif wyrda y Arawn yw ef, a’r iarll yn e lys. Ac ef a dothyw o Annwn a deng wyr a thrugeint a thri cannwr.’

‘A phwy yw’r deu rysswyr orwyllt racco’, heb ef, ‘a llenni bryth amdanunt, a chledyueu llym yn y dwylaw, a meirch du adanunt, a frwyneu aryant ar y meirch?’

‘Mi a wnn pwy yw wynteu, arglwyd’, heb ynteu. ‘Sef yw hynny, Gorllym Grudasgwrn ac Gorlew Crafanclaw, meibon Aeron; ac o’e thri meib ar ugeint, ny phara neb eithyr hynny. A phan anet mab ohoni, hitheu a’e adawei ar y mynyd drwy y nos, ac o parassant wy yn fwy, cryf digawn oedynt genthi.’

‘A phwy yw y tri gwr racco’, heb y Lleu, ‘a (18) ordiwedant y gwyr yn y hemmyl, a gwallt gordu gorhir arnunt, a llenni rud amdanunt, ac yn y dwrn pob un fust o hayarn.’

‘Mi a’e gwn, arglwd’, heb ynteu, ‘a sef yw hynny, Duach Diual uab Guawrdur, a Nerthach uab Guawrdur, and Brathach uab Guawrdur. Ac o wrthdir Annwn y doethant.’

‘A phwy y uydin dec racco, yg gylch gwas pengrych ar uarch drythyll, a dwy wayw lliueit yn y law, a llen ganthaw yn llathru ual y gwlith; ac yn gyuelynet a’r eur yw gwallt y was hwnnw.’

‘Mi a’y gwnn, arglwyd’, heb ynteu, ‘a’r teulu Unwst Beisalarch geuynderw y Arawn y maent wy, a nachaf Unwst Beisalarch ehun yn y plith, ac ef a duc o Annwn bedwarugeint o wyr ymlad dewr.’

‘A phwy yw’r gwr hir ar uarch mawr melyn racco, a niuer o wyrda yn y gylch, a chledyf eurdwrn ar y glun a gwayw o aryant ganthaw, a llen werd amdanaw, a llunyeu ystwyth eureit gwyduilot yn y llenn?’ ‘Mi a’e gwnn, arglwyd’, heb ynteu. ‘Ac Arawn ehun yw hwnnw, ac ef a gyueir y wyr ymlad a’e diskynneit. Ac ef a dygyuores a uo yn y deyrnas o uarchogyon hy a gwyrda a phedyt ac arueu.’

‘Yr ansawd teyrneid brenhin yssyd ganthaw’, heb ef. ‘A phwy enw y gwr athrugar e ueint yn y ol, a chledyf mawr ganthaw, ac uch no phenneu y marchogyon ereill yw yscwyd y gwr hwnnw, kyt a ef yn bedestyr.’

‘Nys gwnn i ef, arglwyd’, heb ynteu, ‘ef a gudyawd y wyneb. Mi ry giglef o geimat diruawr yn marchogaeth ymysc y lluyd Annwn, ac ony wypper y enw ny (19) oruydir arnaw.’ ‘Minheu a’e kiglef heuyt’, heb ef.

A guedy hynny, wy a wiscawd amdanunt, a llyma, y klywynt y kyrn, ac yna yd aeth Arawn am y pen, ac aerua diuessur y ueint a uu yno. Ac y bu reit y yniueroed Gwyned kilyaw dracheuyn hyt y’r gaer.

A chennadeu a anuonet o Arawn y erchi y tri aniueileit (a hynny a oedynt y mwyn creu a wnaethpwyt udunt yg Gaer Neuenhy<r>[6].) ‘Ac ef a gymer y rei hynny’, heb y kennadeu, ‘a’r lleidyr Uydyon uab Don y gyt ac wynt. Am yssit yn y ynuiueroed y diskynnyat ny wydawch e enw, a heb yr enw hwnnw, ny orffer arnam, ac ar y llun hwnnw y gwna Arawn urenhin Annwn y dangneued.’ ‘Nac wna, y rof i a Duw’, heb y Gwydyon, ‘a dywedwch ywch arglwyd uot diskynnyat yn an hynuieroed ninheu heuyt a’r un gynnedyf ganthaw, ac ony wyr ych arglwyd y enw, ys ni a oruydwn.’

A thri dieu dilyt y urwydyr a wnaethant, hyt pan yd oed redec gwaet o’r tywarcheu. A llas Lleu Llaw Gyffes yno, a ny thygywys udunt gudyaw y damwein hwnnw. Ac eisswys ny orffei y lleill ar y llall.

‘Oy a uab Duw Hollgyuoethawc’, heb y Gwydyon yna, ‘madws oed ynni caffael pedyt newyd yn y lle, canys Arawn yssyd y cadarnaf, ac y Duw y dygaf ug gyffes, na uynnaf y wyr (20) Gwyned cael adoet drostom ni bellach.’ ‘Galw ar Duw hyt y mynnych’, heb y urawt, ‘yssit lle y keffych deunyd gwyr ymlad yn ebrwyd digawn, os dyuynnych.’ ‘A fa deunyd yw hwnnw?’, heb ynteu. ‘Sef yw hwnnw’, heb yr Amaethon, ‘rithyaw wyd a’r coet a blodeu’r eluyd, a’y hasswynaw, a nac aent dracheuyn yw seuyll wy hyt pan yr oruuant. Ac wynteu a uo wrth y cadw yn gwyr ni rac y gelynyon.’ ‘Ie, arglwyd uarwt’, heb ynteu, ‘ny uu uell gwr ar y ssynwyr noc wyt, a Duw a dalo da yti. A dioer, nyt bedyt hawd eu reoli a uei y rei hynny.’ ‘Titheu a’y kymellych’, heb ynteu.

A’r ugeint goreugwyr o’e yniueroed a elwir idaw yna. ‘Uyng gwyrda kywir’, heb y Gwydyon, ‘ewch draw ydan y coet a welwch chwi yno. A thynnwch ych cledyueu a thorri urig y wrth bob kyuryw brenn a dyuanhoch arnaw yna, ac ymhwelut ynni a’r brigeu hynny yn uch no phenn pob un ohonawch, ar ureint arwydon. Ac yr awr honn kerdwch gyntaf y galloch.’

A kyuodi a wnaethant yr ugein guyr a mynet dan y coet a thorri urig y wrth bop prenn a dyuei yno. Ac y doethant yn ol ar Uydyon. Ac ar hynny rannu y brigeu y ryngthunt (21) a wnaeth, y’r sawl bennaethyeit a gwyrda ac yssyd yn y niueroed yna, a rodi y brigeu ar eu taryaneu a wnaethant, ual y llunnyawd Gwydyon. Ac yd aeth Guydyon y waeret y brynn y le neb ny allei y welet, a chymryt e hutlath a seuyll tu a’r gwyd, a theirgueith y trewis ef y dayar yrac e deudroet. A chynn daruot idaw gyuyngu, ef a glyw yno leuyd yr adar yn diang draw ac yman o bob parth. A nachaf dyuot o bob prenn yn y coet yn guyr llawn aruawc ar hynny, deri a bedwenni a gwyrdgyll, ac o’r a welsei neb o gydwyr kyweir ac guyr ymlad eiryoet, y gwylltaf a’r calettaf e wynebeu oedynt, a llydweith antrugarawc arnunt.

Ac ef a wyl y llu diuessur yn dyuot yn y ol, a’r niueroed a gyweirir yn eu herbyn. ‘Aglwyd’, heb wy, ‘Mae’r guyr ymlad a dywedeist <t>i ohonunt?’ ‘A wyrda’, heb ef, ‘bywch lawenach noc yd ywch. Y gwyd a daw parth ac attom ar (22) ansawd gwyr, ac wynt yn dygyaw. A drycheuwch ych brigeu a’ch changeu hyt pan y gwelhont wy hynny, a hyt tra yd gwelant yr arwydon hynny, ny ant yg gwrys wrthawch chwi.’

Ac wy a gyrchyssant yno, ac yna y bu y llad, ydan y kedernit Caer Nefenhyr. Ac yn y godwrwf hwnnw ny oscoes y gwyd droeduet, ac ymlad a orugant heb beidyaw, heb dywedyt, heb disgyrryaw. Ac wy a ganlynwys daryaneu y gwyr Gwyned, a gossot a wnaethant ar yniueroed Annwn yno. Ac y llas lladua uawr a gwydwic a wnaethpwyt o galaned o bop parth, ac amyl o wr a sathrwyt y dan draet y rei hynny. Ac ergryn mawr a doeth ar wyr Arawn, o’r pan welynt uot y guyr hynny yn rwygaw ulaen y llu.

Ac ym plith y gwyd yd oed Gwydyon ynteu, a ny welei wyneb y cadwr eres ony wyppei e enw ny orffer arnaw. A sef a wnaeth Gwydyon yna, seuyll y uynyd yn y gyfrwy, a chymryt y hutlath, ac edrych ohonaw ar y niuer a’r lluyd, a chanu (23) englyn:—

Carngraf y march yd elhwn;
Wyneb y rysswr a wnn.
Ony welaf yn gam,
Mi a wyr pwy yw hwnn.

A nachaf y cadwr yn dyuot y ulaen y niueroed, ac yn hynny yd arganuu Wydyon yr wyneb idaw o agos, a chanu englyn ynteu yna:—

Carngraf dy uarch dan yspardun,
ysbric wyrd uern ar dy yscwyt;[7]
Bran y’th elwir o’th urig ardun.

Ac etwan y cudyawd godwrwf yr ayrua y wyneb ynteu, a sef a wnaeth Gwydyon, canu englyn arall idaw yna:—

Carngraf uy march yn y dyd cat,
Bann blaen guern ar dy aghat;
a Uran, am y brig yssyd arnat,
y goruu Amaethon uat.

A garymleis anghynwys a dodes y kenryssedat yna, ac o’r gyuawr honno nys kyrchont lluyd Annwn yno, ac eu hennill a deruynassei, a cheissaw onhonunt lle yd ymchwelynt y gwlat. Niuer diuessur o’e wyr goreu a gollyssynt, a chychwyn ohonunt parth ac y crugyeu a’r gogoueu y wlat honno, a ny raculaenwys Arawn racdunt. Ac y (24) am hynny, y sawl o’r gwyd a ymchwelwys yw seuyll a wreidyawd yna, ac yna oedynt ettwa. A ny ymhwelwys riuedi ohonunt, ac hynny a gerdassant hyt yn Lloegyr, ac oed ouyn ar wyr ac wraged o achaws nat oed lyueryd ganthunt. Ac ar hynny kyscu ohonunt y dreis a’r gwraged yno, a’r plant a anet o’r gwraged hynny nyt oed ganthunt onyt ledieith.

Ac yuelly y goruuant Guydyon ub Don ac Amaethon uab Don ar Arawn, a chadw gan Amaethon ynteu o’r ki a’r ywrch a’r cornucyl a ducpwyt o Annwn, o achaws yr enw argel a uu ar Uran yn y cat honno. Ac at Wydyon y doethant kennadeu o Arawn. ‘Ie’, heb y Gwydyon, ‘pa uynwch chwi? Neut teruynedic rewin y’th arglywd.’

‘Dioer’, heb wynteu, ‘adaw a wna yn harglwyd na bo ymdiala bellach arnawch. Ac ef a uynn (25) gwybot pwy yw’r gwr yn dy lluyd y bu argel y enw ynteu.’ A sef a wnaeth Gwydyon yna, chwerthin. ‘Guarauun ny wnawn idaw wrth hynny. A doet ef ehun ynni os uynn gwybot pwy a uo hwnnw.’

A hynny a anuonet ataw, ac yd aeth Arawn ehun rac bronn Gwydyon. ‘Ny’m tawr dywedyt ohonaw’ heb ynteu, ‘canys peth a uyd y diargel ac yn amlwg yt guedy hynny. A nyt oed gwr yssyd yma eithyr gwreic, a sef yw y henw hitheu, Achren uerch Goluennin, dy wreic dy hun.’

A honno oed y dryded prif geimateseu yn yr ynys hon, a sef y rei ereill: Bydug uerch Brasdwy, a diffeithwys yr holl Ruuein pan dwc Iwll Kessar Fflur uerch Uygnach Gorr y gan Gaswallawn uab Beli; a Mederei Badelluawr, a dygyuores y theuleu a’y hyniueroed, guedy yd gwiscaw ymdani yn arueu y thad.

A chyuodi y uynyd trwy lit a wnaeth, canys Achren oed y wreic e hun, ac yr eidi oed yr enw y roessei ar y porthglwyd ym pell yn y gyuoeth, a ny uassei yn hawd y hadnabot ganthaw (26) yna.

Ac yn hynny Achren a daw y’r blaen heuyt, a nyt oed kyueir erni ny bo yn llawn o’e gassau. ‘Ha, arglwyd’, heb hi, ‘ti a wely a wneuthum yrot ti. Ac yn gryf yd gossodeis hediw ac yn gadarn y ymladassom, herwyd y gwaet y bydwn yndaw hyt at yn deulin.’ ‘Ym kyffes y Duw’, heb ynteu yna, ‘direitwreic wyt ti. A phei ys gwyppwn, ny’th ry gymerwn yn wreic ym eirmoet. A paham gorugost hynn?’ ‘Oy a Duw’, heb hi, ‘ys dall a wr a wyt <t>i ony wydost. Hyt yman ry deuthum yr dy benydyaw, a hynny ym pwyth y tremyc a’r gyulauan a orugost arnaf, sef yw rodi gwr arall a’th osked a’th furyf arnaw e gysgu y gyt a ui, y’n ystauell a’n guely ninheu, a ui yn anwybot. A hynny’, heb hi, ‘guaradwyd oed, a dygaf y Duw uyg kyffes, mi a wreith anglot yti, a thi a gywylydeis inheu y rawc.’ ‘Dioer’, heb ynteu yna, ‘mi a ysgaraf ohonat, ac o hynn allan y byd genhyf malpei nat oes y kyfryw wreic a thi[8] yn y byt. A ny (27) chyffy dim byt o’r a uei genhyf, na dim o’r da oed yn deu pan kymereis ti yn wreic.’ ‘Nys mynnwyf’, heb hitheu, ‘a nyt oes dim a uo gasach genhyf na thydi a’th kyuoeth.’ A throi a wnaeth ynteu a cherdet parth ac y wlat, a byth bellach y tyuei y digassed y gan Arawn urenhin Annwn wrth Uydyon uab Don o’r achaws hwnnw. A chymeint a oed yndaw o lit ac agarwed ac nat arbedwys Uydyon pan dynnwyt y lygeid yg Gaer Golud, ual y dyweit y kyuarwydyt.

Ac wynt a gerdassant racdunt hyt pan doethant y Gaer Tathyl, Gwydyon ac Amaethon ac Achren uerch Goluennin y gyt ac wynt. A gwled darparedic oed udunt yna, a chyrchu y bordeu a wnaethant, ac eisted a orugant ual hynn – Amaethon o’r neill parth y Uydyon, a Achren o’r parth arall idaw ef, ac ymdidan a digriuwch oed y ryngthunt (28) yll tri y nos honno. A gwedy y bwyta kyntaf, tiryoni a wnaeth bryt Amaethon wrth Achren, canys gwreic dissymyl a thelediw oed hitheu. A dywedut a wnaeth o’e pherlann diwall a blannassei yn Annwn, ac o’r a glwyssei o ymdidan gwraged, diuwyn a diulas oed ywrth y hymdidan hi. Ac enryued oed hynny ganthaw. ‘Arglwydes’, heb ef, ‘yssit dir a dayar genhyf, sef yw’r seith cantref Dyuet a rodes Gwydyon uy mrawt ymi, a nyt oes gantrefi yn y Deheu guell noc wy. A uych wrth duyot yno yn wreic ymi?’ ‘Minheu a uydaf wrth hynny yn llawenn’, heb hi. Ac ar y wled honno, y kyscwyt genti, ac wy a doethant y Dyuet, Amaethon ac Achren, a diruawr leuenyd a uu yn eu herbyn gan wyrda y llys, gwelet y harglwyd yn kymryt wreic gystal a honno. A Gwydyon ynteu a gyrchwys Caer Dathyl guedy hynny, ac yno y bu.

Ac yuelly (29) yd gwnaethpwyt teruyn ar gangeu hynn o’r Mabinogi[9], o achaws Cat Godeu, yr honn a uu y dryded o’r tri Ouergat Ynys Prydein, pan yr ast a’r iyrch a’r cornucyl a ducpwyt o Annwn, ac o achaws yr Ormes Arawn, a lygyrwys y perllanneu a’r aniueileit yg Gwyned, hyt nat oed rym a ellit ac wynt; ac am Dial oer Achren ar e gwr, ac am Wled Amaethon.

Article continues Arrow right

[1] MS arawn uab ny urenhin annwn

[2] MS ssynnyeit

[3] MS y llygeit

[4] MS wdosti

[5] MS weleist i

[1] MS arawn uab ny urenhin annwn

[2] MS ssynnyeit

[3] MS y llygeit

[4] MS wdosti

[5] MS weleist i

[6] MS Neuenhyt.

[7] MS ys bric uerd y uern ar dy yscwyt

[8] MS hi

[9] MS Mabinyogi

Article continues Arrow right


   © 2008 Salt Publishing Limited      CLMP   IPG   ACE